Skip to main content

Fe wnaethom sicrhau dros £1m o Gyllid Ffyniant Gyffredin i gyflawni'r prosiectau canlynol, sy'n ategu'r gwaith o gyflawni'r Cynllun Twf:

  • Cefnogaeth Cysylltedd Digidol Gwledig

    Darparu cymorth i gymunedau wella eu cysylltedd band eang.

    Am fwy o wybodaeth

  • Mynediad i Ynni Lleol Blaengar

    Mae grant cymorth ysgrifennu bidiau (h.y. help/gwybodaeth i baratoi ar gyfer ceisiadau ariannu) wedi'i lansio ar gyfer sefydliadau cymunedol bychain a mentrau bychain sydd â Phrosiect "Ynni Glân / Datgarboneiddio" amlinellol a fydd angen cyllid cyfalaf yn y dyfodol agos ac sy'n medru dangos pam eu bod angen cymorth ysgrifennu bid.

    Am fwy o wybodaeth

  • Asesiadau Cysylltedd Busnesau Bach a Chanolig (SME)

    Darparu cyngor busnes ac arweiniad penodol i fusnesau bach a chanolig (SMEs) ar sut y gallant fabwysiadu'r technolegau rhwydwaith di-wifr diweddaraf i wella cynhyrchiant ac arloesedd.

    Am fwy o wybodaeth

Rydym yn gweithio i greu Gogledd Cymru

Cysylltiedig

Datblygu a gwella cysylltedd ac isadeiledd digidol

Blaengar

Manteisio ar arloesedd yn ein sectorau gwerth uchel a hyrwyddo ymchwil

Gwydn

Creu swyddi newydd o werth uchel ac annog pobl ifanc i aros

Cynaliadwy

Amddiffyn ein hamgylchedd a datblygu ein rhanbarth yn gyfrifol

Uchelgais Gogledd Cymru

Rydym yn cydweithio i adnabod a chreu cyfleoedd fydd yn datblygu ein heconomi. Byddwn yn hyderus a chydlynol, yn canolbwyntio ar wella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Gogledd Cymru.

Cynllun Twf Gogledd Cymru

Bydd pum rhaglen y Cynllun Twf yn dod â buddsoddiad o £1 biliwn i Ogledd Cymru erbyn 2036. Gan greu economi fywiog, gynaliadwy, gydnerth a ffyniannus i'r holl ranbarth.